top of page
2955123b.jpeg
IMG-20240620-WA0023_edited_edited_edited.jpg

CYCA ADRODDIAD BLYNYDDOL TACHWEDD 2023/2024

                                                                       Croeso i adroddiad blynyddol CYCA ar gyfer 2024.

                                                Mae wedi bod yn flwyddyn o lwyddiannau, o ran caffael grantiau a chyllid. ‘Rydym yn 
                                                arbennig o falch ein bod wedi derbyn cyllid dwy flynedd, gyda’r posibilrwydd o dderbyn

                                                cyllid am bum mlynedd, oddiwrth glwstwr amrywiol bractisiau meddygon teulu Llanelli,
                                                oherwydd bod y galw am wasanaethau i blant sy’n dioddef gorbryder wedi treblu dros y
                                                flwyddyn ddiwethaf. 

 
Hoffwn ddiolch i Lloyd and Whyte am ein henwebu fel eu helusen y flwyddyn, gan eu bod wedi bod yn codi arian ar ran CYCA drwy gynnal amrywiol ddigwyddiadau arlein. ‘Rydym yn dibynnu’n helaeth ar roddion wrth bod caffael grantiau’n mynd yn anoddach ac, o ganlyniad, yn golygu bod rhaid i wasanaethau hanfodol ddirwyn i ben.

‘Rydym wedi croesawu dau ymddiriedolwr newydd i’n bwrdd, sef Anne Marie Thomas a Paul Jones, dau a fydd yn dod â chyfoeth o brofiad i’n bwrdd, sydd eisoes yn brofiadol dros ben. Estynnaf fy niolch i Yvonne Rodgers sydd eleni’n gorffen ei chyfnod o dair blynedd yn ei swydd. Mae Yvonne wedi bod yn hynod weithgar wrth gyflawni ei gwaith ac yn gefnogwr cadarn o blant bregus. 

‘Rydym yn parhau i ehangu ein tîm llesiant ac wedi croesawu cwnselwyr, a chwnselwyr dan hyfforddiant, newydd i’r tîm. Mae’r holl staff yn mynychu hyfforddiant proffesiynol newydd parhaus er mwyn sicrhgau bod CYCA yn darparu’r gefnogaeth fwyaf effeithiol a phriodol i’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau.  

Ac, yn olaf, diolch o galon i’n buddiolwyr sy’n dodi eu ffydd ac ymddiriedaeth yn staff CYCA pan y maent yn wynebu eu cyfnodau mwyaf bregus, fel bod ein staff yn gallu helpu eu harwain ar eu taith i wellhad.  


Diolch yn fawr iawn pawb.

Tracy Pike MBE

Adroddiad y Prif Weithredwr

Adroddiad y Cadeirydd

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn dangos yn glir paham y mae CYCA yn dal i fod yn elusen
llewyrchus. Mae’n tynnu sylw at feysydd o angen ac yn dod o hyd i ffyrdd arloesol ac ymarferol
o helpu plant, ieuenctid ac oedolion i wella eu bywydau drwy dderbyn cefnogaeth effeithiol.

 

Mae CYCA yn gefnogwr “cerrig llam”. Drwy annog pobl bod angen iddynt groesi afon
ansicrwydd, a’r ofn sy’n eu dal yn ôl rhag gwireddu eu potensial llawn, ‘rydym yn eu gweld yn
ennyn hyder, fel y dangoswyd gan lawer o’r astudiaethau achos a gynhwysir yn yr adroddiad
eleni.   


P’un ai bod cefnogaeth CYCA yn cael ei gynnig ar ffurf mentor, cwmselwr, hyfforddwr neu weinyddwr meithrinfa, y nod bob amser yw darparu gwasanaeth o ansawdd, yn seiliedig ar ymarfer gwybodus a amlygir. 
Wrth i fy nghyfnod fel Cadeirydd ddod i ben, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’m cyd-ymddiriedolwyr ac holl staff a gwirfoddolwyr CYCA, o dan arweinyddiaeth ysbrydoledig Tracy Pike, MBE, am eu hymroddiad ac ymrwymiad i CYCA a’i fuddiolwyr.  

Mae CYCA wedi mwynhau blwyddyn lwyddiannus o weithgareddau codi arian i gefnogi a datblygu gwasanaethau sy’n gwella bywydau plant, ieuenctid a theuluoedd. 

Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion, mudiadau a gwirfoddolwyr sydd bod yn rhan o’n gwaith. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai CYCA wedi llwyddo i gyflawni’r hyn y byddwch yn darllen amdano yn yr adroddiad hwn. 

 

Diolch yn fawr I chi gyd.
 

Yvonne Rodgers

Find out more....

Calon y Gymuned

Mae CyG yn ei drydedd flwyddyn ac yn dod i ben ym Mai 2025.

 

Dyma’r prif lwyddiannau/ deilliannau:

 

  • Mae 4,433 unigolyn wedi lleihau tlodi emosiynol drwy gael mynediad at hwb llesiant aml-swyddogaethol, a chefnogaeth arlein.

  • Mae 4,433 wedi gwella eu llesiant drwy gael mynediad at/ cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cefnogi ffyrdd o fyw mwy iachus.

  • Drwy dderbyn cefnogaeth uniongyrchol/an-uniongyrchol mae 4,433 wedi profi llai o ynysu ac wedi cynyddu eu sgiliau cymdeithasol, sydd yn eu galluogi i integreiddio gyda/ cyfrannu at eu cymuned.

  • Mae’r prosiect wedi creu 32 Llysgennad Cymunedol.

“I have enjoyed being part of a group in a safe place.” “I am part of a community when I come to CYCA.” “I have made new friends and learnt a lot of information which will help me raise my son.” “I can’t put into words what CYCA have done for me since I joined last summer. I have improved my own mental health and my children and even my husband have joined me on activities. The childcare and transport aspect are so vital to some of use and the staff are so accommodating to our needs. They have supported my son for his ALN diagnosis also, and I can honestly say all our lives have improved since coming here.”

Case Study

When H joined HOC in January 2024, she was unable to speak to anyone in the group or even make eye contact. She depended on her friend and neighbour attending the sessions with her and spoke through them, declining to answer questions or speak within the group setting due to sever lack of confidence and anxiety. Since then, H has completed a non-accredited group Resilience course, an accredited one-to-one Resilience course with a tutor to build up her confidence further, and accredited Child Development and Managing Anxiety courses. Since then, she has not only attended sessions without her friend, but has spoken confidently in group settings, making eye contact and asking questions and even joined a local gym to further her mental health journey. This is something she never thought she would accomplish and has given extremely positive feedback throughout her time in HOC and has just signed up to more courses.

IMG-20241105-WA0003.jpg
adrenal-fatigue-1.jpg
cooking-on-a-budget-2.jpg

Presgripsiynu Cymdeithasol 

Mae PC yn ei drydedd flwyddyn; dros y flwyddyn ddiwethaf, rhwng Tachwedd 2023 a Thachwedd 2024, mae PC wedi cefnogi 74 teulu. ‘Rydym wedi sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall, tan 2027.

 

Dyma’r prif lwyddiannau/ deilliannau:

  • Cefnogi plant sy’n dangos gorbryder ysgafn neu gymedrol a/neu iselder.

  • Gweithio mewn ffordd systematig gyda holl aelodau’r teulu er mwyn helpu creu gwell cyfathrebu ac empathi.

Ym mis Medi dechreuodd CYCA Bloom, sef grŵp celf ar ôl ysgol i ferched rhwng 8 ac 16oed. ‘Rydym yn darparu gweithgareddau crefft unigryw a lluniaeth, mewn awyrgylch ddiogel a chroesawgar, lle y gall ein merched ifanc gymdeithasu gyda phobl o’r un oedran. 


Mae’r grŵp wedi’i hyrwyddo gan dri cwnselwr cymwysedig sydd yn ymwybodol o anghenion ieuenctid, er mwyn darparu cefnogaeth llesiant ac annog sgyrsiau iachus.  

Megan Lewis

Adroddiad ynghylch y Clwb Bloom

"I look forward coming every week" "I enjoy being here because I can be messy" "I've made loads of new friends" "I can be myself" "I get to make things I wouldn't have been able to in the house" "I love making new crafts" "I've seen her grow in confidence, this is the first place she has been able to come without anxiety and have fun"

‘Rydym wedi cyflwyno ein clwb ieuenctid i fechgyn er mwyn cefnogi plant i adeiladu hyder, cymdeithasu a rheoli trawsnewidiad. Mae’r grŵp wedi cael ei annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, yn amrywio o goginio pitsa, celf a chrefft, tenis bwrdd ac adeiladu gyda Lego.

 
Mae’r clwb yn cael ei rhedeg gan Luke, y Prif Fentor, a Jac, mentor o dan hyfforddiant, sy’n cynnig model rôl gadarnhaol i’r bechgyn.

Luke Brown

Adroddiad ynghylch Clwb y Bechgyn

"I want to come to club everyday!" "I love doing boxing on the pads with Jac." "Table tennis tournament was my favourite part." "I enjoyed making our own pizza wraps."

Case Study 1

We received a referral from for a family from Burry Port GP Surgery, this came in on 22.01.24. During initial contact, Mum said that the child was refusing to go to school and that they had behavioural issues such as lashing out physically. Mum and dad were separated, and dad had moved. They shared custody of the child.

 

When we met with mum it became evident the depths of the issues within the family. The emerging issues brought to light domestic abuse and that the dad was controlling. Social services were involved with the family. We worked with mum and she set goals for herself that she would like to achieve at the end of the support which was to have a reduction in anxiety due to feeling overwhelmed.

Below is a quote from the mum.

“CYCA were fantastic, supportive, amazed this service is available to people. It’s been a life saver as I was broken. I felt listened to and this enabled me to move forward and set boundaries.”

Case Study 2

My client came to mentoring with the goals of improving self-confidence and emotional expression. My client found it difficult to regulate their emotions and would often become angry very quickly. When asked about how they were feeling, they found it difficult to say or to know. They struggled with self -confidence, as they had a negative self-image and found it difficult to speak their mind. Over our time together, we explored what a typical day looks like and what events occur before an outburst. From this we were able to identify triggers and patterns that caused her to feel overwhelmed.
 

By breaking things down, we were also able to identify some key feelings that led to emotional overwhelm and confusion. As my client became more aware of themselves, we then looked at how they can express these emotions. As they became more self -assured I noticed their confidence grow. To help their confidence we did identity building activities, that explored their values and self-image.
 

Halfway through our time together CYCA started bloom, an after-school craft group. I invited my client, as I thought it would aid in growing their confidence. In the group I witnessed my client initiating conversations, trying new crafts, and making new friends. At the end of our mentoring process, my client’s parent commented on how their behaviour at home had massively improved.

They had far less emotional outbursts and were able to communicate how they felt. Their parents also mirrored the resilience skills we use at CYCA, as they had attended our course. This helped continue to improve my client’s well-being at home.

Gwaith Cartref Waterloo 

Mae prosiect gwaith cartref Waterloo yn ei ail flwyddyn, ac yn cydweithio mewn partneriaeth gyda saith ysgol gynradd leol. Gan gydweithio yn uniongyrchol gyda swyddog cyswllt allweddol, mae CYCA yn cefnogi’r ysgolion i asesu’r trawma sy’n cael ei arddangos gan blant a theuluoedd. 

Mae’r themáu sydd wedi dod i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
 

  • Dicter

  • Osgoi’r ysgol

  • Ynysu Cymdeithasol

  • Gorbryder

 

Drwy ystyried y themáu a welwyd, roeddwn yn gallu adnabod y materion sy’n dod i’r amlwg. Mae’r materion sy’n dod i’r amlwg wedi datblygu i fod yn ffocws o’n gwaith gyda’r plant a theuluoedd. 
 

Y prif lwyddiannau:
 

  • Mae 30 teulu wedi cael eu cyfeirio at y prosiect, sy’n golygu bod 127 aelod teulu wedi derbyn cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn.  

  • ‘Rydym wedi cynnal 8 sesiwn Therapi Lego, sy’n hafal â 24 o blant.

  • Mae 6 sesiwn o gyrsiau gwytnwch arch-arwr wedi’u darparu ar gyfer 200 o blant a 12 gweithiwr proffesiynol.    

  • Ers Ebrill 1af, 2024, mae 604 unigolyn wedi derbyn cefnogaeth drwy fentora, cwnsela, gwytnwch, therapi Lego, clwb y bechgyn a’r clwb Bloom. 

"The service has been exceptional. We have referred many families to CYCA through the schoolwork project and many families have benefited massively. It has supported us as a school, the pupils and the parents greatly. It has helped us to understand some deeper issues that the family are maybe facing or have in the past so that we are able to support them moving forward." "The service has been well received by the key staff involved. The potential of the service in Year 2 of this collaboration between the school and you as a strategic partner is welcomed. The service to date has been purposeful."

lyndsey_edited.jpg

Mae Therapi Lego, sydd ond newydd ddechrau yn CYCA, wedi cael effaith ddwys ar y plant ‘rydym wedi bod yn eu cynnal.

 
Mae’r gefnogaeth sydd ar gynnig wedi derbyn derbyniad da yn yr ysgolion, ac mae’r ffurflenni data HACT yn datgan bod cynnydd mewn llesiant o’r dechrau hyd at y diwedd. Mae cynnydd cymdeithasol ac emosiynol wedi’i adnabod hefyd, yn ogystal â chefnogaeth cymheiriad ac adeiladu tîm. 

Lyndsey Hughes

Adroddiad ynghylch
Therapi Lego

Find out more....

Fynnu

Daeth ein cyllid o gronfa’r Codi’r Gwastad i ben yn Rhagfyr 2024.

  • Mae 54 buddiolwr wedi elwa ar y gefnogaeth.

  • Mae 11 wedi dod o hyd i gyflogaeth. 

  • Mae 26 wedi gwirfoddoli a phrofi gwaith lleoliad.

 
Mae’r mudiadau sydd wedi darparu lleoliadau gwaith yn cynnwys:

 

  • Tŷ Celf

  • Sied Nwyddau

  • CYCA

  • Dechrau’n Deg

  • Stebonheath

  • Tiny Totz

  • Andrea’s Flowers

  • Mark Skinner

  • Llamas (Llanelli Autism Mums)

  • Andrew Naylor

carmarthenshire-county-council-vector-logo.png

"What an amazing volunteer Rylee is! This testimony does not do them justice!  We are delighted that CYCA and the Thrive project approached us, and offered Rylee as a volunteer, working with LLAMA as a play and support worker to all our families.  Their life experience has been invaluable to our members, and they can work independently knowing exactly what's needed. An asset to any position they've been put in." ~ Placement testimonial LLAMA'S (Llanelli Autism Mams Association) "We are delighted to be working alongside Thrive and being able to welcome Ashley into Tiny Tots. We have been Ashley's confidence grow with every day she comes in. When she first came in, she would not interact with customers at all and was incredibly quiet. She has slowly come out of her shell and is now venturing into the café and giving customers their orders and interacting beautifully." ~ Placement testimonial from Tiny Tots Town Llanelli "I have so many more friends and people I know I can rely on, I used to struggle making friends feeling I’d be judged but I’ve felt nothing but welcomes with CYCA and the chances I get with myself and the family too. I could write a book on how much I appreciate everything and everyone from there." ~ Thrive candidate “I’m so glad I found it. It’s exactly what I’ve been looking to do, it looks amazing. Can’t wait to show the kids the train one day.” ~ Thrive candidate at the Llanelli Railway Trust Goodsshed

Case Study

At the beginning of R’s journey through THRIVE, they were extremely shy and, in their words, “socially petrified of everything”. They wanted to work or volunteer to improve their confidence and mental health but had debilitating anxiety and social anxiety, which affected their ability to attend anything that could help them reach their personal and professional goals. Since joining the THRIVE project, they’ve responded extremely well to the 6-week Improving Confidence course, which supplied important work-based information underpinned with resilience and confidence building. After the course, R felt confident enough to volunteer internally for CYCA with ongoing mentoring support from staff, which led R to volunteer externally, attend networking events and join local groups. Since then, R received one-to-one help creating a CV and has applied for their first paid employment in 5 years, and even attended a face-to-face interview, which in their words “I never thought I would ever do”. R gives extremely positive feedback for her time on THRIVE.

Find out more....

Plant mewn Angen (PMA)

Daeth i ben ym Mai 24

PMA – cefnogwyd 372 o blant dros 3 blynedd.
 
Dyma’r prif lwyddiannau/ deilliannau:
 

  • Grymuso plant ac ieuenctid i wneud penderfyniadau call a diogel o ran eu gweithgareddau arlein, ac i fod yn ddewisol ynghylch y rhai y maent yn derbyn fel ‘ffrindiau’. Maen nhw hefyd wedi datblygu i fod yn ddigidol empathetig, gan sylweddoli’r effaith y mae eu hymddygiad arlein yn cael ar eraill.

  • Mae gorbryder ac iselder oherwydd cael eu bwlio arlein wedi gostwng. ‘Rydym wedi gweld lleihad mewn teimlo’n ddiwerth, colli grym, brad a stigmateiddio fel canlyniad uniongyrchol o fforio arlein a/neu seiberfwlio.
     

Find out more....

Lles Y Bwyd

Dros wyliau’r haf roeddwn wedi lletya sesiynau Lles Y Bwyd gyda theuluoedd yn y gymuned. Roedd pob sesiwn wedi darparu brecwast twym a chinio i bob plentyn a oedd yn mynychu. Roedd sesiynau’r prynhawn wedi dod â’r plant a’r rhieni /gofalwyr at ei gilydd er mwyn cynnig iddynt gyfle i ddysgu sgiliau coginio, a pharator swper i’w gludo adref ar gyfer y teulu. Roedd Lles Y Bwyd wedi dod â phlant ynghyd, gan ddarparu gofod diogel, llawn hwyl i’r plant chwarae ac ymgysylltu â llawer o weithgareddau newydd, megis padl fyrddio a dringo creigiau. 

 

Dros gyfnod o bum wythnos roedd Lles Y Bwyd wedi darparu:

  • 319 brecwast

  • 370 cinio

  • 301 pryd o fwyd teuluol.

"I loved rock climbing and making new friends." ~ Child "I liked playing with the toys." ~ Child "I loved cooking with mommy and daddy." ~ Child "It has helped me to improve my cooking skills." ~ Parent "It has helped me to improve my communication skills." ~ Parent "The project has helped me share play with my child and interact more." ~ Parent "It helped my son with cooking skills and also to eat food that he wouldn't normally try." ~ Parent "We enjoyed playing cooking and walking. The children were busy and I had a bit of a rest. Also we were cooking together so they were happy to participate. In addition the food was delicious and all the volunteers were very caring and pleasant, thank you." ~ Parent

Find out more....

Meithrinfeydd

Mae ein meithrinfeydd yn dal i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg o ansawdd uchel, am ddim, yn ein cymuned. Mae 12.5 awr yr wythnos o ofal plant, am ddim, yn cael ei ddarparu ac, yn ychwanegol, mae hyn yn cynnwys diwrnodau hwyl i’r teulu.

 

Ers cyfnod Covid mae’r ddau leoliad wedi croesawu ail-lansio ein gwasanaeth Graddio i’r plant sy’n ymadael, gan ddathlu eu cyflawniadau a llwyddiannau’r holl blant sydd wedi mynychu Jellitotz a Tedi Bach.

Mae’r ddau leoliad wedi llwyddo i gwblhau’r hyfforddiant FA LA LA, gyda Jellitotz yn cael ei ddewis ar gyfer cyfle hyfforddiant pwrpasol 1 i 1.

Mae hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn dal i fod o’r pwysigrwydd mwyaf er mwyn darparu gofal plant o ansawdd uchel, ac mae’r tîm wedi cwblhau ystod o hyfforddiant gorfodol gan gynnwys:

 

  • Diogelu Lefel B

  • Cymorth Cyntaf

  • Hylendid Bwyd

 

Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Caerfyrddin am y cyfle i wneud cais am grant cynaliadwyedd; llwyddodd y ddau leoliad i gaffael arian cyllid at ddiben cefnogi a datblygu ein lleoliadau.

Mae Jellitotz wedi derbyn ei arolwg blynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac roedd yr arolwg wedi cydnabod gwaith caled parhaus Jellitotz a’i ddarpariaeth gofal plant o ansawdd, ac mae’r feithrinfa wedi derbyn gradd dda yn ei hadroddiad. 

Mae Tedi Bach wedi ei dewis gan Dechrau’n Deg fel y Feithrinfa beilot gyntaf i weithredu menter gyffrous newydd, Sêr yn Siarad, sef cynllun iaith a lleferydd pwrpasol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd effeithiol o gyfathrebu a siarad gan ddefnyddio dull wedi’i deilwra, er mwyn cyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer y plant ‘rydym yn eu cynnal. 

451772600_7785416348173701_2972577627756

Cefnogaeth Llesiant

Dros y flwyddyn a aeth heibio mae CYCA wedi creu partneriaeth lwyddiannus dros ben gyda chanolfan y ffordd ymlaen. O ganlyniad, mae pum cwnselydd o dan hyfforddiant wedi derbyn lleoliadau, ac mae dau ohonynt wedi sicrhau cyflogaeth gyda’r elusen.  

Mae’r holl staff wedi ennill cymwysterau ychwanegol er mwyn mirienio ein gwasanaethau, ac mae’r rhain yn cynnwys: 
 

  • Therapi Lego 

  • Pace, Lefel 1 a 2

  • Hyfforddiant Meddylfryd Rhianta

  • Trawma Hysbys, Lefel 3

  • Cyfryngu.

  • Agored Cymru Lefel 3, egwyddorion asesu

  • Gradd mewn Astudiathau Blynyddoedd Cynnar Plentyndod

  • Cyfryngau cymdeithasol, Lefel 3 

  •  IQA Lefel 4

Agored Cymru

Lansiwyd y tystysgrifau Ardystiedig newydd yn 2024, yn dathlu ein partneriaeth hir-dymor gydag Agored Cymru. Kevin a Tom,ein cyfranogwyr Ffynnu oedd y dysgwyr cyntaf yng Nghymru i dderbyn eu tystysgrifau Ardystiedig.

Acknowledgements

Diolchwn i Yvonne Rodgers, wrth i’w chyfnod o wasanaethu fel Cadeirydd ddod i ben wedi 3 blynedd. Mae Yvonne wedi dod â chyfoeth o arbenigedd ac arweiniad i CYCA. 

yvonne-rodgers.png

Diolch o galon i bob un o’n cyllidwyr

carmarthenshire-county-council-vector-logo.png
nationallottrycommfund
Dunelm_logo.
Welsh_Government_logo.png
logos.png

Dragon 24

Centre of Excellence

Unit 2

North Dock

Llanelli

Carmarthenshire

SA15 2LF

 Powered and secured by Wix

bottom of page